Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/21

Gwirwyd y dudalen hon

grawnt yn 1770. Dyna swm a sylwedd ein cerddoriaeth gysegredig hyd ag y gwyddis. Nid oedd ein sefyllfa yn llawn mor anghenus o barthed i'n cerddoriaeth genedlaethol, gan fod Parry ddall, o Rhiwabon, wedi anrhegu ei wlad ag Ancient British Music yn 1742; am yr hwn gariadus lafur —er na chynhwysa'r gyfrol ond 24 o alawon— bydded ei goffadwriaeth am byth yn fendigedig gan bob cerddor Cymreig. Yn 1752 dygodd allan gyfrol arall, ac eto y drydedd yn 1781. Ac yn 1784 cyhoeddodd Bardd y Brenin ei Relicks— cyfrol dra phwysig, yr hon a ddilynwyd gan eraill yn 1794 (helaethiad o'r un flaenorol), 1802, ac 1820.

"Mae'n anodd gwybod pa sut y cafwyd ni yn y sefyllfa dlodus hon ynglŷn â'n cerddoriaeth gysegredig; ac hyd yn hyn y mae y cwestiwn yn un nad ydym wedi cael un math o oleuni boddhaol arno. Efallai y datguddir y peth ryw ddydd, ond am y presennol rhaid ymfoddloni ar y ffaith fel y mae uchod.

"Ar ddechreu y ganrif, hefyd, nid oedd gennym, hyd ag y gwyddom, na gramadeg cerddorol yn yr iaith, nac unrhyw fath o draethawd neu erthygl yn ymdrin ag egwyddorion y gelfyddyd. Gwyddom, bid siwr, am lyfr John Dafydd Rhys, a'r hyn a geir yn y Myryrian am ysgrif-lyfr Robert ab Huw o Fodwgan, ac eraill, ond nid yw hyn oll nac yma nac acw, cyn belled ag y mae a fynno â ni yn awr.

"Yn 1816 cyhoeddodd John Ellis, Llanrwst, ei Fawl yr Arglwydd yn cynnwys rhai cyfarwyddiadau; Owen Williams o Fôn, ei Gamut—cyfieithiad o Dibdin—yn 1817; yn 1828, John Ryland Harries, Abertawe, Grisiau Cerdd Arwest; a William Owen,