Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/22

Gwirwyd y dudalen hon

Drenewydd, y Caniedydd Crefyddol, yr hwn hefyd a gynhwysai gyfarwyddiadau yn y wyddor. Credwn mai dyma ein rhai cyntaf, ac er mor brin y wybodaeth a gyfrannent, ac er mor hynod o ddilun a gwallus oeddent o ran cynllun, cynhwysiad, a phopeth, yr oeddent yn well na dim, ac yn rhyw rag-arwydd fod gwawr well ar dorri. A'r un fath y gerddoriaeth a geid ynddynt; fel ag yn Brenhinol Ganiadau Seion Owen Williams, a gyhoeddwyd yn 1819. Yn wir, wrth edrych dros Mawl yr Arglwydd, er engraifît, mae'n anodd gwybod pa sut y gellid gwneud dim o'r darnau—os y cenid hwy hefyd o gwbl fel yr oeddent.

Yn perthyni'run cyfnod yr oedd John Williams, Dolgelley, David Harris, Carno, a D. J. Morgan, Llechryd; dynion yn ddiau a lafuriasant yn galed, ac i oreu eu gallu. Y mae rhai o donau ac anthemau y tri, yn enwedig eiddo J. Williams a D. J. Morgan, yn parhau yn eu blâs gyda ni hyd heddyw, a'r un fath, rai gan John Ellis, er yr ymddengys fod D. Harris yn llawn cymaint, os nad mwy, o gerddor a'r un ohonynt.

"Yn y cyfnod boreol hwn yr oeddyn arfer gyffredin i gyhoeddi tonau mewn cyfnodolion fel Seren Gomer; a gwnaeth rhai o'r goreuon (o ran eu hawenyddiaeth) eu hymddangosiad cyntaf drwy gyfryngau felly; ond yr oeddent fel rheol yn boenus o wallus a diamcan. Gwnaeth Ieuan Glan Geirionydd wasanaeth buddiol drwy ei ysgrifau gwyddorol yn y Gwladgarwr (Caerlleon). Ond pan gyrhaeddwn 1838 daeth 'anadliad o Lanidloes' â Gramadeg John Mills, yr hwn a ddilynwyd yn 1842—3 gan Arweinydd Cerddorol