cyhoeddedig eisoes gan Bardd y Brenin; casgliad Thornsen, Edinburgh, yn 1809 ac 1811 (gyda chyfeiliannau gan Haydn, Beethoven, etc.); amryw gan John Parry (Bardd Alaw) yn dechreu yn 1809 ac yn cyrraedd i 1839 ac 1848, pryd y dygodd allan ei Welsh Harper (Cyfrolau I a II). Yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd British Melodies gan Master Joseph Hughes pan nad oedd ond 9 mlwydd oed. Yr oedd Richard Roberts wedi cyhoeddi Cambrian Harmony yn flaenorol i hyn (1829), ac ymddanghosodd casgliad gan Hayden, Caernarfon, yn 1833. Dyna fraslun o'r prif gasgliadau hyd nes y cyrhaeddwn 1844, pryd y daeth Miss Williams, Aberpergwm, a'r Ancient National Airs of Gwent and Morganwg allan—y pwysicaf yn ddiameu er ymddangosiad cyfrolau Parry Ddall, a Bardd y Brenin, ac i raddau llai rai o eiddo Bardd Alaw. Yn 1845 cyhoeddodd ieuan Ddu, Merthyr, Y Caniedydd Cymreig—' The Cambrian Minstrel.' ***** "Yr Eisteddfod gyntaf o bwys a gynhaliwyd yn y ganrif oedd un Caerfyrddin yn 1819, yn yr hon y llywyddai Dr. Burgess, Esgob Tyddewi, ac yr oedd yn bresennol yr hen fardd Iolo Morganwg. Mewn ystafell yng Ngwesty yr Ivy Bush y cynhelid hi, ac yr oedd y gweithrediadau cerddorol yn gyfyngedig, yn ol yr hanes sydd o'n blaen, i bedwar o delynorion cyflogedig, y rhai a chwareuent ar brydiau 'rhag blino y gynulleidfa â gormod o undonaeth'—barddol a thraethodol fel y casglwn, gan y dajrlIenid y farddoniaeth a'r traethodau buddugol yn y cyfarfod! Cafwyd 'Duw Gadwo'r Brenin' gan y telynorion, ac wedyn canwyd yr
Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/24
Gwirwyd y dudalen hon