Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/25

Gwirwyd y dudalen hon

unrhyw gan dri o aelodau Cymdeithas Gyngherddawl Caerbaddon,' a chaed cystadlu ar y delyn am delyn arian, Bardd y Brenin yn beirniadu. Yn Eisteddiod Cadair Merthyr, 1825, yr oedd ariandlws i'r datganydd goreu, ac eto i'r telynor cyntaf ac ail oren. Dyma'r datganydd wedi gwnead ei ymddangosiad bellach; ac yn Eisteddfod Gadeiriol Gordofigion Lerpwl 1840, yr oedd y cyfansoddwr yn dechreu dod i'w eiddo ei hun, yn ychwanegol at ei faeth—frodyr, y telynor a'r datganydd, gan y cynhygid gwobr go hael am 'Amrywiadau' ar dôn a roddid, ac eto am y 'dôn Gymreig newydd' oreu, Bardd Alaw yn beirniadu. Dylem fod wedi crybwyll Eisteddfod Caerdydd yn 1834—un hytrach nodedig i ni yma, gan mai ynddi hi y daeth Brinley Richards allan gyntaf—yntau am "Amrywiaethau" (ar Llwyn Onn) o dan feirniadaeth yr un beirniad a'r blaenorol.

"Ond prif Eisteddfodau y cyfnod hwn oedd eiddo Cymreigyddion y Fenni a gychwynwyd yn 1834,— enaid a bywyd y rhai oedd Arglwyddes Llanofer,— er yn ddiau fod eu dylanwad, fel yr ymddanghosant yn y presennol, yn fwy mewn cyfeiriadau llenyddol na cherddorol.

"Yn y Gogledd yr oedd eisteddfodau clodus Bethesda yn ein cyfoethogi ag anthemau Lloyd, Cyndeyrn, Alawydd, Eos Llechid, ac eraill; ac ar adeg ychydig yn ddiweddarach, Gymdeithas Gerddorol Ddirwestol Aberdâr, gyda chyfres o gyfansoddiadau baddugol yn anthemau, canigau, etc."

Dywed fod J. Ambrose Lloyd, "blaen—redegydd. eneiniedig y Gymru gerddorol oedd i ddod ar y