Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/26

Gwirwyd y dudalen hon

maes ers blynyddau" ond heb "ddyfod i'w lawn. dŵf."

Mewn ysgrif arall o'i eiddo darllenwn : Gydag ymddangosiad J. Williams, J. Ellis, ac eraill yn y Gogledd, a D. J. Morgan yn y De, yr oedd arwyddion cynhyddol o adfywiad cerddorol drwy y wlad. . . . .

"Pan y deuwn at y Millsiaid o Lanidloes yn y Gogledd, a Ieuan Ddu, Rosser Beynon, ac eraill. o hen ysgol Merthyr yn y De, yr ydym yn cael y wlad yn myned rhag ei blaen mewn ystyr gerddorol yn gyflymach fyth. . . .

"Yn fuan ar ol hynny (1848) cyhoeddodd Alawydd, Bethesda, ei Ramadeg-un o'r gweithiau bychain. egwyddorol goreu a feddwn hyd y dydd hwn; ac heblaw hyn gwnaeth wasanaeth pwysig mewn cyfeiriadau eraill, drwy ffurfio dosbarthiadau, sefydlu cymdeithasau, perfformio oratoriau, a chynnal eisteddfodau fuont yn foddion i ddwyn rhai o'r cerddorion blaenaf i'r amlwg.

"Wrth daflu golwg yn ol ar yr ad-ddeffroad (renaissance) cerddorol tua diwedd yr hanner gyntaf o'r ganrif bresennol, bydd i ni, fel un, edrych bob amser gyda diolchgarwch tuag at Lanidloes, Merthyr, a Bethesda, fel y tri chanolbwynt y daeth ein goleuni pennaf ohonynt."