Ei Gyfnod Cyntaf, 1843—1860.
III.
YR AMGYLCHFYD AGOS.
DYNA'r amgylchfyd cerddorol cyffredinol yng Nghymru pan anwyd Emlyn, ac ymlaen i dymor ei blentyndod—amgylchfyd dan oleuni gwan ond cynhyddol oedd yn treiddio o ganolbwyntiau mwy disglair mewn ardaloedd a phersonau, ac yn cael ei groesawu a'i fwyhau gan feddyliau cydnaws a derbyngar mewn mannau eraill. Ond rhaid i ni fwrw trem ar ei deulu a'i amgylchfyd neilltuol cyn gweld pa fodd ac i ba raddau y manteisiodd ar y cyfleusterau oedd yn ei afael.
Ganwyd ef Medi 21ain, 1843, ym Mhen'ralltwen, ffermdy bach ar y bryn uwchlaw dyffryn Ceri, yn ymyl lle'r ymgyll yn nyffryn mwy y Teifi. Gwneir y fferm i fyny o fryndir uchel, iach, mwy cyfarwydd â chân yr uchedydd nag eiddo'r fronfraith, ag eithrio dwy "fron " sydd yn disgyn yn dra serth i'r cwm islaw, a dôl ar waelod y cwm, lle gyrrid y gwartheg yn yr haf, pan fyddai'r dŵr yn brin ar y bryniau. Y mae'r olygfa o ymyl y tŷ, ac yn arbennig o gaeau uchaf y fferm, yn dra swynol ac amrywiol, ac yn rhoddi cipolygon ar gyrion dyffryn Teifi yn ymyl, a golwg fwy agored ac ehangfawr yn y pellter, o'r Foelfre i'r Frenni Fawr a mynyddres Preseli. Yn yr amgylchfyd naturiol hwn, gyda'r uchedydd a'r