awel "awel o'r mynydd ac awel o'r môr"—y treuliodd Dafydd bach flynyddoedd cyntaf ei fywyd "ymhell o sŵn y dref." Yn wir, nid oedd tref ddi—sŵn Castellnewydd Emlyn i'w gweld, lai fyth i'w chlywed oddiyno, ag eithrio sŵn y Ffrwdwen dan ei chastell pan fyddai'r tywydd yn braf—fel y deuai sŵn "ffrydiau Cenarth" o gyfeiriad arall ag addewid am law—fel y tybid.
Enwau ei dad a'i fam oedd Evan a Mary Evans; ond dadcu a'i famgu (o ochr ei fam), sef Dafydd a Mary Jones, oedd yn byw yn y fferm; yn unig arhosai ei fam, yr hon oedd y ferch hynaf, yn ei hen gartref wedi dydd ei phriodi. Yr oedd ei famgu— a alwai ef y pryd hwnnw yn "Mam"—yn orhoff ohono, gymaint felly fel y cafwyd ei deganau chware bychain wedi eu trysori ganddi wedi dydd ei chladdu. Clywsom ddweyd fod yr Iberiad yn gryf yn Emlyn. Os oedd, yr oedd wedi ei amhuro gryn lawer— efallai ei wella—gan elfennau eraill. Yr oedd gwaed Ysgotaidd, yn ol yr hanes teuluaidd, drwy ei "famgu Pen'ralltwen," yn rhedeg yn ei wythienau. Yr oedd mam ei famgu yn ferch y "Dinas"—y fferm nesaf at Dolgoch yn Emlyn yn nyffryn Ceri, a phan ddaeth Ysgotyn o'r enw James yn arolygwr (supervisor) i Gastellnewydd Emlyn, syrthiodd y ddau mewn cariad â'i gilydd. Yr oedd ei rhieni hi yn dra anfodlon i'r gyfeillach, a gwrthodasant eu cydsyniad briodas; ond yr oedd ei chariad hi yn gryfach na bygythion a chloion, a'r canlyniad fu iddi gael ei dadwaddoli. Wedi i'r ddau symud i Fryste, bu hi farw, a thynherodd calon hen wraig y Dinas—y hi, mae'n debyg, oedd yn gwisgo'r llodrau—yn ddigon i dderbyn ei hwyrion i'w haelwyd, ac i ymgymryd â'u