dwyn i fyny. Eu henwau oedd James, Dafydd a Mary. Daeth James i gael ei adnabod yn ddiweddarach. ym myd llên fel "Iago Emlyn": bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Park St., Llanelli, ac yna yn Clifton, lle y bu farw.
Yr oedd "John Jones, Pontceri," brawd ei dadcu, yn dra adnabyddus fel gwleidydd lleol—yn Radical o flaen ei oes. Ef, a'i frawd o Ben'ralltwen, oedd prif adeiladwyr yr ardal—cyfuniad o amaethu ac adeiladu a erys yn y teulu o hyd.
Yr oedd ei fam yn wraig ragorol, yn fam dda, dduwiolfrydig ei hysbryd a dichlyn ei chymeriad; perchid a cherid hi gan bawb o'i chydnabod. Ond oddiwrth ei dad yr etifeddodd ei alluoedd meddyliol—y tu allan i gerddoriaeth. Yr oedd ef yn un o gynheddfau cryfion uwchlaw'r cyffredin; ac er na chafodd ond rhyw chwarter blwyddyn o ysgol (yn y Betws, Glynarthen), ac nad oedd ond gweithiwr caled yn y gweithfeydd dur ym Mynwy, ymrôdd i ddisgyblu ei feddwl yn ei oriau hamdden, nes medru siarad ac ysgrifennu Saesneg yn gystal â Chymraeg, a dod i feddu gwybodaeth gyffredinol eang mewn Ieithyddiaeth, Rhifyddeg, Hanesiaeth, Gwleidyddiaeth, Gwyddoniaeth boblogaidd, a Diwinyddiaeth. Casglodd lyfrgell dda,——a mwy na hynny, yr oedd ei gydnabyddiaeth â hi yn fwy cyfartal â'i chynnwys nag ydyw gyda llawer ohonom. Ei werthfawrogiad ef o fanteision addysg, yn wyneb ei anfanteision ei hun, sydd yn cyfrif am y ffaith fod ei fab hynaf wedi cael gwell addysg na'r cyffredin o werin Cymru'r amser hwnnw. Deilliai ef, ar ochr ei fam, o'r Peregrines a ddaeth i fyny o Benfro; wele amhuredd arall eto yn y gwaed Iberaidd!