Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/30

Gwirwyd y dudalen hon

Pan oedd Dafydd bach yn bedair oed, gadawodd ei dad a'i fam hen aelwyd Pen'ralltwen, ac aethant i fyw i'r Drewen, er y treuliai ef wedyn lawer o'i amser ym Mhen'ralltwen gyda'i famgu. Pan yn chwech oed, dechreuodd fynd i'r ysgol i Fryngwyn, pellter dair milltir o'r Drewen; sêl y tad dros addysg fore, ac absenoldeb cyfleusterau agosach, a barai fod plentyn mor ieuanc yn gorfod cymryd taith ddyddiol mor bell; a mawr oedd pryder a helynt y fam i'w hebrwng ran o'r ffordd bob bore, ac eilwaith i'w gyfarfod yn yr hwyr. Yn ffodus, yr oedd Pen'ralltwen ryw dri lled cae o ochr y ffordd wedi pasio'r tyle. cyntaf, ac felly'n torri'r daith i'r teimlad pan na fyddai amser yn rhoddi cyfle i alw, er mai nid yn aml y byddai'n ddigon annhrugarog i hynny. Ond wedi peth amser cafwyd gwaredigaeth oddiwrth yr helynt. dyddiol hwn i draed a chalon drwy gychwyniad ysgol yn y Drewen. Bu dan dri ysgolfeistr yno na feddent ar un cymhwyster arbennig i'r swydd: ond arhosodd clod un ohonynt, o'r enw Wheeler, yn hir yn y fro fel un a allai ysgrifennu "fel copperplate." Ar ol bod nifer o flynyddoedd yno, symudwyd ef i "ysgol yr Eglwys" yng Nghastellnewydd, lle'r oedd ysgolfeistr o allu a medr—yn neilltuol fel rhifyddwr— O'r enw William Williams ("Wil y Cwm "). Bu Herber Evans hefyd yn yr un ysgol; ac er mai braidd yn ddiystyrllyd y sieryd ef amdani oherwydd ei stŵr, yr oedd gan Emlyn barch calon i'w hen feistr; ymwelai ag ef, a gyrrai anrhegion iddo hyd y diwedd. Yr oedd yn ffasiwn y dyddiau hynny i adysgrifio y problemau rhifyddol a weithid allan mewn ysgriflyfrau, i ddangos olion cynnydd y disgybl i'r rhieni synfawr, gellid meddwl, a chroniclo ei gampau i'r