Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DYDD Y PETHAU BYCHAIN.

ER i Iago Emlyn ddweyd, pan fu farw'i fab, fod yr awen farddonol wedi cymryd ei haden o'r teulu, nid oedd hynny'n wir, a dweyd y lleiaf, mewn perthynas â'i chwaer-awen gerddorol. Cafodd Emlyn y ddawn yn gynysgaeth drwy'i fam. Yr oedd yn y teulu, ac y mae yn y teulu. Er nad oes gennym hanes am gyfansoddwr cerddorol arall o fri ymhlith ei berthynasau, y mae nifer ohonynt yn meddu ar allu uwchraddol i ddehongli cerddoriaeth, ac ar leisiau mwy soniarus na'r cyffredin i'w datganu. Dywedid am Dd. James—brawd Iago Emlyn—a drigail mewn ffermdy anghysbell o'r enw Penalltycreigiau—ei fod yn hoff o ganu ar hyd y meysydd, a bod y bechgyn yn sefyll gyda'u herydr, a'r merched gyda'r godro, i wrando arno, gan mor bêr y canai! Gallwn yn ddiogel gychwyn gyda'r ragdyb fod gan Emlyn ddawn gerddorol gynhenid gref—pa mor gryf, ei hanes, yn wyneb cyfleusterau ac anghyfleusterau, a ddengys. Er pob ymchwil yn yr hen ardal, ni lwyddasom i ddod o hyd i unrhyw wybodaeth bendant ynghylch ei sefyllfa gerddorol pan oedd ef yn blentyn. Ym Mhennod II cawsom ei ddisgrifiad ef ei hun o sefyllfa gerddorol Cymru'n gyffredinol, ond beth am ei amgylchfyd agos? Tystiolaeth Mr. Tom Jones—brawd Mr. Emlyn Jones, a cherddor da ei hun—yw, nad oedd yna nemor ddim cyfleusterau i ddysgu cerddoriaeth. Ond rhaid fod yna gyfleusterau i ysbrydoedd parod a derbyngar: heb hyn, ni fuasai