cerddorion a chantorion fel Emlyn Jones a'i frawd, Dr. Saunders, Tomy Morgan, Eos Gwenffrwd, ac Emlyn erioed wedi cychwyn ar eu cwrs cerddorol. Ymddengys fod llafur D. Siencyn Morgan yn dwyn ffrwyth, ac fel y gwelsom, yr oedd yna ddeffroad cerddorol drwy'r wlad rhwng 1840 ac 1850, ac nid oedd ardal Emlyn, lle y cyhoeddid Y Byd Cymreig, o gwbl y tu allan i redlif y bywyd cenedlaethol.
Dyry ei atgofion ef ei hun gynhorthwy mwy pendant i ni. Yn y Musical Herald am Ebrill, 1892, ysgrifenna:
"Dywed Giraldus Cambrensis (1146—1220) am Gymry ei ddyddiau ef, eu bod yn aml i'w clywed yn gwmnïau yn canu mewn rhannau (in parts) nid yn unsain (in unison) fel mewn gwledydd eraill. Derbynnir hyn gan Sir F. Ouseley a Sir George Macfarren; ac y mae 'n wir am ein pobl heddyw. Ddeugain mlynedd yn ol a rhagor, yr oedd, i'm gwybodaeth i, yn wir am rannau pellennig Sir Aberteifi. Mewn capeli gwledig bychain, mewn ysgoldai, ffermdai, ac ar y croesffyrdd, torrai y bobl allan, ohonynt eu hunain. (spontaneously) mewn cynghanedd, oblegid y mae'n sicr na allai un o bob cant ohonynt ddarllen nodau. Ni fyddai'r gynghanedd yn berffaith, ond yr oedd braidd yn ddieithriad yn seinber a hyfryd."
Darllenwn ymhellach mai ychydig gerddoriaeth oedd yn yr ardal ei magwyd ynddi, ond fod ei deulu—ei fam yn neilltuol—yn gerddgar, a'i fod yntau'n uno yng nghaneuon a thonau'r aelwyd o'r crud. Gallesid ychwanegu fod ganddo o leiaf un ewythr—tad Herbert Emlyn—a fedrai ddarllen cerddoriaeth, a mwy nag un oedd yn gantor da.