Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyddiau hyn anfynych y clywir canu gwell nag a geid yn Bethel—capel y Methodistiaid—y pryd hwnnw, ac yn sicr nid yn fynych y cyfarfyddir ag arweinydd galluocach na Tomy Morgan.' Yr oedd hyn flynyddau cyn i ni ddod i ymgydnabyddiaeth bersonol ag ef, ac i ffurfio y cyfeillgarwch hwnnw na ddatodwyd ond gan y gelyn a wahana y cyfeillion goreu. Yn yr adeg y cyfeirir ati uchod y daethom i adnabyddiaeth gyntaf ag 'Ystorm Tiberias' ac anthemau penigamp Ambrose Lloyd ac Owain Alaw; a'n pleser mwyaf ar nos Sul fyddai dringo i fyny'r oriel yn yr hen gapel, mor ddistaw a llygoden eglwys, oherwydd nid gwr i chware ag ef oedd Tommy.

"Tua'r adeg fore uchod yn ein tipyn hanes darfu i ni breswylio am ychydig amser yn y dref wrth enau yr afon a ymddolena o amgylch hen ddinas Emlyn, sef Aberteifi; ond yr oedd y canu yno mewn ystad fwy isel o lawer. . . . Eto os eid allan i'r wlad ychydig, deuid o hyd i bentref bychan o'r enw Blaenanerch, lle yr oedd sefyllfa pethau yn dra gwahanol. Dyna le genedigol un o'n prif gerddorion presennol. Nid ydym yn gwybod a fu ein cyfaill Benjamin Thomas ( Bensha' fel y gelwid ef), tad Mr. John Thomas, Llanwrtyd, erioed yn arwain y gân yno, ond gwyddom ei fod yn un o flaenoriaid, os na fu yn gapten, y llu.

"Athro cerddorol, yn fwy nac arweinydd, yn ystyr gyffredin y gair, oedd Hughes Llechryd,' yr hwn a ddoi i fyny i'r Drewen i gynnal 'ysgol gân '—neu ddosbarth i ddysgu canu. Yr oeddem wedi pendroni cryn lawer uwchben Gramadeg Richard Mills, ac yn gallu ymlwybro yn weddol