Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd nes y deuem at y Raddfa Leiaf, wedyn—y fagddu, ac os aem am eglurhad at un o oleuadau. cerddorol yr ardal, âi, y tywyllwch yn fwy fyth; o ganlyniad yr oedd ein hawydd yn fawr iawn i fod yn un o'r dosbarth, a hynny fu; ac aelod arall ohono oedd ein cyfaill, y Parch. W. Emlyn Jones.

Yn Hen Nodiant yr athrawiaethai Mr. Hughes, a chredwn ei fod yn athro deallus ac eglur, ond gwaetha'r modd, er nad oedd yn ymdrin ond ag A.B.C. y wyddor, yr oedd yn hedfan ymhell uwchlaw cyrhaeddiadau y mwyafrif o'i ddosbarth, er fod dau ohonom yn orawyddus i roddi'r cloadur ar bethau plentynaidd felly—plentynaidd i y ni. Y canlyniad oedd i'r ddeddf fynd allan yr ail noson nad oedd W.E.J.a D.E.E. i ateb cwestiynau ond pan ofynnid iddynt. Felly fe aeth yr hanner coron hwnnw—yr unig un a wariwyd ar ein hysgoliaeth ym myd y gân—i wastraff, oherwydd cyn i'r dosbarth gyrraedd pwnc y Raddfa Leiaf, yr oeddem ni wedi troi ein hwyneb at Forganwg a'i thai gwynion . . . Yn un o'r cyfarfodydd hyn y daethom i gyffyrddiad gyntaf ag Ap Herbert (Moses Davies y pryd hwnnw) yr hwn oedd yn yr ysgol yn Llechryd, ac a ddaethai i lanw lle ei feistr am noson. Ar y pryd nid oedd ond dyn ieuanc, golygus a rhadlon, yn meddu llais cyfoethog iawn." Cawn atgofion pellach mewn ysgrif o'i eiddo ar Hafrenydd (1895):—

"Y mae deugain mlynedd a rhagor wedi gwneud eu cyfrifon i fyny er pan y daethom i wybod gyntaf am Hafrenydd, a thrwyddo ef rywbeth am Handel, a Haydn, a Mozart, ac ereill o'r prif feistri, a thrwy gyfrwng y Ceinion y bu hynny. Collasom ein