Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oegolwg ar y casgliad hwnnw yn fwy neu lai cynnar yn ein hanes, ond coleddem deimladau cynnes. tuag ato, ac atgofion tyner o'r oriau dreuliwyd yn ei gwmpeini o dan goed y Wenallt, ac ar lannau'r hen Deifi. . . Y cyntaf o'r cyhoeddiadau i ddod allan oedd y Salmydd. Cynhwysa rai o donau goreu Lloegr a'r Cyfandir, a rhai gan Ambrose Lloyd ac eraill, a darnau gan Bach, Haydn, Mozart, Beethoven, Mendelssohn, Farrant, Richardson, a Kent—dim un gan Handel."

Prawf yr hanesion a ganlyn ei hoffter at gerddoriaeth pan yn hogyn

Yr oedd yn arferiad gan aelodau'r Ysgol Sul bartoi "pwnc," neu, yn fwy cywir, ddysgu nifer o atebion i gwestiynau ar ryw bwnc diwinyddol,—atebion a ategid yn wastad ag adnodau o'r Beibl, ac i fynd i ryw gapel cymdogaethol i brofi eu meistrolaeth o'r "pwnc," a dangos eu medr cerddorol mewn anthem. Yr oedd Ysgol Sul y Drewen yn ymweled felly un tro â chapel Bryn Seion (Pontseli)—rhyw bum milltir o ffordd heibio Penwenallt (hen gartref Theophilus Evans) a Chenarth. Yr oedd Emlyn yn y côr, ac yn arweinydd yr alto. Ni wyddom pwy oedd arweinydd y côr, ond tybiwn mai "Daniel Teiliwr." Drwy ryw anffawd torrodd y côr i lawr, ag eithrio'r Alto; canai Emlyn ymlaen fel petae dim wedi digwydd, nes i'w ewythr—a adroddai'r hanes wrthyf yn gymharol ddiweddar—ei brocio, a dweyd "Taw, fachgen." Dengys yr hanesyn hwn, o leiaf, ei fod yn gwybod ei waith y pryd hwnnw, a'i fod hefyd yn ymgolli yn y gân nes anghofio pawb a phopeth arall. Gan ei fod yn adrodd hanes mewn man arall, gellir ef ei hun yr ei dderbyn fel un dilys.