Dengys hanesyn arall ei gariad cynnar at y "drawyddol gân." Pan yn siop y Bont, ac yn dod gartref dros y Sul, arferai fynd ar ol yr oedfa fore Sul gydag ewythr neu ddau (meibion Pen'ralltwen) a mab Felin-geri, a meibion Pantglas hyd waelod yr Alltwen, a dwyn y gyfeillach i derfyn gyda'r geiriau, "Nawr, tôn, boys "—y llanc rhwng deuddeg a phymtheg oed yn arwain, wrth gwrs! Y mae hen wraig o'r enw Anne Davies—dros ei phedwar ugain oed erbyn hyn[1] —yn byw ym mhentref Cwmcoy, sydd yn ei gofio'n aml ar fore Sul yn mynd i lawr y "lôn fach" i'r Drewen, dan ganu a chwifio'i gadach poced fel un yn arwain côr naturiol casglu mai dychwelyd yr oedd o hebrwng ei gyfeillion i waelod yr allt, a bod y tân oedd wedi ei ennyn yno heb ddiffodd eto yn ei enaid! Ymddengys mai ei hoff rodfeydd yng nghwmni'r gân oedd yr un i gyfeiriad yr Alltwen—tua'r gogledd, a'r un "dan goedydd y Wenallt "—tua'r de.
Nid oedd na phiano nac harmonium yn y wlad dyddiau hynny; ond cawn ei fod wedi dysgu canu'r chwibanogl (fute). Y mae'n beth hynod, ond eithaf gwir, fod y chwibanogl yn offeryn tra phoblogaidd yn yr ardal, a rhai yn medru ei ganu gyda llawer o fedr. Yr oedd Eos Gwenffrwd yn un o'r cyfryw, a chofiwn yn dda mai gyda'i help hi yn aml y dysgai'r anthem i'r sopranos, cyn i'r Tonic Solffa ddod yn boblogaidd yn y lle. Treuliai Emlyn lawer o'i oriau hamdden, nid yn unig i ganu'r chwibanogl, ond hefyd i gopio miwsig, yr hyn sydd yn cyfrif, i fesur efallai, am ei ddestlusrwydd a'i fedr gyda'r gwaith hwn yn ddiweddarach. Cafodd Ramadeg Richard Mills yn rhodd gan ei dad, ac yn ddiweddarach (pan yn 14eg
- ↑ 1914