Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

V.

MORGANNWG.

PAN yn 15eg oed—yn 1858—wedi gorffen tymor ei brentisiaeth, cymerodd ei aden o'i ardal enedigol a'i gartref, i wynebu ar y byd. Nid oedd trên yng Nghastellnewydd, ac aeth ef a'i fam, os nad ei famgu, i'r orsaf nesaf yng Nghaerfyrddin, lle y gwelodd y trên am y tro cyntaf. Ei gyrchfan oedd Penybont ar Ogwy, at draper genedigol o bentref cyfagos Cwmcoy—Ap Daniel, New York wedi hynny. Ag eithrio dau doriad byr i dreio'i ffawd yng Nghaerdydd ac Aberteifi, yma y treuliodd bump o flynyddoedd mwyaf derbyngar a pheryglus bywyd dyn, mewn gwaith caled ac oriau hirion, ond hefyd ynghanol llawer o bleser gwaith a chyfeillgarwch. Yr oedd yn llawn ynni ac uchelgais, ac ymroddai i'w waith fel masnachydd, tra y rhoddai ei oriau hamdden i gerddoriaeth, ac i wasanaeth y delfryd o ddiwylliant ehangach oedd yn wastad o flaen ei lygain. Heblaw cylch y faelfa, daeth i gyffyrddiad â chylchoedd eraill o gymdeithas yn y dref a'r eglwys, yn y cyngerdd a'r eisteddfod. Ar y cyfan, yr oedd yn amser egniol, cyfoethog, a hyfryd. Soniai ef gyda serch am fro Morgannwg hyd y diwedd, ac nid oedd yn ail yn ei galon i'r un fro ond Glan Teifi.

Bu'n ffodus yn ei gysylltiadau eglwysig. Gweinidog yr Annibynwyr ym Mhenybont ar y pryd oedd y Parch. J. B. Jones, B.A., gan yr hwn y cafodd bob cynhorthwy a chefnogaeth. Saif "J.B." allan fel