Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un o'r rhai yr hoffai ddatgan ei ddyled iddynt hyd y diwedd. Bu'n fath ar frawd hynaf iddo (yn yr ystyr goreu), yn anogydd a chefnogydd, yn gystal ag yn addysgydd ac arweinydd, yn feddyliol a moesol, ac i fesur yn gerddorol. Yr oedd y ddau'n edmygwyr mawr o'i gilydd, er yn gwbl ymwybodol o ddiffygion y naill y llall.

Yr oedd y manteision a'r cymhellion i gerddor ieuanc yn llawer lluosocach ym Morgannwg nag oeddynt ar lan Teifi. Ei dystiolaeth ef ei hun (yn y Musical Herald, Ebrill, 1892) yw fod yr awyrgylch yn llawn canu. Yn y pentrefi, yn gystal â'r trefi, yr oedd yr Eisteddfod yn dod i fri cyffredinol; perfformid oratoriau mewn mannau; a gloewid doniau a phurid chwaeth y cerddorion drwy gyfathrach gyson. Cawn atgofion mwy manwl Y Cerddor:—

"Ym Morgannwg daethom i awyrgylch gerddorol dra gwahanol, er nad yn gymaint parthed caniadaeth y Cysegr a chaniadaeth gorawl. Ond dyma'r tro cyntaf i ni ddod i ymgydnabyddiad â'r eisteddfod; ni wyddem ddim am oratoriau y prif feistri, nac am ganigau ac anthemau yr ysgrifenwyr Seisnig, ond yr ychydig ddetholion a threfniadau a geid mewn casgliadau fel y Ceinion; nid oeddem wedi gweld na chlywed organ erioed, na pherdoneg ychwaith ond un tro yn un o gyngherddau Owain Alaw.

"Yr oedd cryn lawer o dalent gerddorol ym Mhenybont. . . . Bu'r perfformiadau o weithiau y prif feistri a gaed yno ar y pryd o les diamheuol i'r lle, ac o leiaf i rai personau unigol. Agwedd ddigon di—lun oedd i gerddoriaeth y cysegr yno ar y pryd, ac efallai mai yng nghapel yr Annibynwyr