lle y gweinidogaethai y Parch. J. B. Jones y blodeuai oreu. Yn yr hwyr âi y cantorion i'r galeri gyferbyn a'r pulpud, a busnes mawr y cyfarfod, o'n tu ni, oedd yr anthem a genid bob nos Sul. . .
"Dyddiau dedwydd oedd y rheiny. Siarad am ddydd o orffwys! Nid oedd dydd caletach o weithio yn yr holl wythnos [na'r Sul]. Yn ychwanegol at y cyfarfodydd cyhoeddus, yr Ysgol, etc., cenid yn y bore ar hyd y dolydd, cenid yn y prynhawn ar ol yr Ysgol, cenid yn yr hwyr cyn ac ar ol y cyfarfod, a chenid wedyn yn nhai cyfeillion hyd y deuai yn bryd i gysgu; ac y mae hen draddodiad yn y lle fod rhai ohonom yn chware'r ffidyl (a gorchudd drosti i ddofi ei sain) yn lle cysgu! Ond y mae prif ddiddordeb y cyfnod hwn yn ei hanes yn gorwedd yn y ffaith mai'n awr y dechreuodd gyfansoddi. Nid oes gennym wybodaeth bendant iawn am ddechreu cwrs ei ddatblygiad fel cyfansoddwr; ond saif dau enw allan yn glir fel rhai a fu'n Prif gynorthwywyr iddo fynd i fewn i deml y gân (o'r cynteddoedd), sef Alawydd ac Ieuan Gwyllt. Alawydd a roddodd yr allwedd yn ei law i agor y drws, ond gan Ieuan y cafodd anogaeth i fynd at y drws, ac arweiniad athrawus wedi mynd i fewn.
Cof gennyf i'r Parch. J. B. Jones ddweyd wrthyf un tro mai ef a ddysgodd Emlyn i gynganeddu. Pan ddywedais hyn wrth yr olaf, chwarddodd yn iach, gan ddweyd nad oedd J.B. yn deall cynghanedd ond yn fesuronol, ac fod ystyr mewnol cynghanedd a lliwiadaeth gerddorol yn gyfrinion clôedig rhagddo. Ymddengys fod perthynas y mesuronydd a cherddoriaeth yn debig i eiddo'r uwchfeirniad â'r Beibl, ac fod "dyfnion bethau" cerddoriaeth yn ddeimensiwn