Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/44

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anhysbys i'r naill fel y mae "dyfnion bethau Duw" i'r llall. Y gwir oedd hyn, meddai ef: iddo fynd â Gramadeg Alawydd yn ei logell un dydd gŵyl (Nadolig, os wy'n cofio'n iawn) i Gastellnewydd, gan ymdynghedu ei feistroli cyn dychwelyd i Benybont, ac felly y bu: pan adawodd Forgannwg yr oedd sanctum cynghanedd ynghlo, er ei fod yn cael mawr hwyl yn y cynteddoedd; ond pan ddychwelodd ar ol ei wyliau, yr oedd y cylch cyfrin wedi agoryd iddo. Nid ydwyf am dynnu dim oddiwrth y clod sydd yn ddyledus i Alawydd am ei wasanaeth sylweddol a sicr i gerddoriaeth a cherddorion Cymru Ymddengys fod ei Ramadeg yn un llawer mwy meistrolgar a hyfforddiadol na dim oedd wedi ymddangos yn flaenorol. A chaniateir mai Alawydd oedd yr athro pan agorodd y drws. Gall hyn fod yn wir, heb fod y gwir i gyd. Clywais ddweyd "nad yw Duw'n rhoddi enaid cyfan i neb." Siaradwyd hyn mewn perthynas â chrefydd, er mwyn pwysleisio'r lliaws o weithrediadau a gweithredyddion sydd yn cydgwrdd yng ngwaith trôedigaeth dyn. Ond y mae'r un mor wir am gerddoriaeth, a phopeth arall. Yn sydyn y dargenfydd yr eneth sydd yn dysgu canu'r piano, a'r llanc sydd yn dysgu iaith, eu bod wedi meistroli eu "pwnc," er fod y gwaith yn mynd yn ei flaen yr holl amser. Rhyw air neu syniad, rhyw lygedyn o ysbrydoliaeth, sydd yn dwyn gwahanol rannau cyfundrefn o ddysg yn y meddwl—asgwrn at asgwrn—i ffurfio cyfanwaith trefnus, ond yr oeddynt yno o'r blaen. Ni wyddis—ni wyddai ef ei hunan—pa faint o help a gafodd gan Richard Mills a Curwen, na pha elfennau a drysorid yn ei is-ymwybyddiaeth gan ei ymarferiadau a'i astudiaeth yr holl ffordd i fyny o ganeuon yr aelwyd hyd Handel; ac ni ddylesid