Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dibrisio ymgais "J.B." i esbonio cynghanedd yn fesuronol iddo—yr oedd hynny'n help mor bell ag yr elai. Os "dyfal donc a dyr y garreg" rhaid inni gofio nad yr ergyd olaf effeithiol, yn unig sydd yn ond mai honno sydd yn effeithioli'r lleill ac yn eu galluogi i gyrraedd adref.

Ond ni byddai ef byth yn osgoi cyfleustra i ganu clod Alawydd a datgan ei ddyled ei hun a dyled cerddorion Cymru iddo; edrychai ar ei Ramadeg fel rhagredegydd cyfnod newydd yn natblygiad cerddorol ei wlad ac o werth arbennig am ei fod yn gafaelyd yn llaw ei oes i'w helpu ymlaen at hwnnw. "Cyhoeddwyd Gramadeg Alawydd" (meddai) "yn agos i ddiwedd yr hanner gyntaf o'r ganrif, ond i'r hanner ddilynol y cariodd ei ddylanwad, ac er efallai nad hollol gywir fyddai dweyd fod y gramadeg hwn gymaint uwchlaw gramadegau y Millsiaid ag ydoedd yr olaf yn uwch na'r rhai a'u blaenorai, y mae'n eithaf gwir ei fod yn tra rhagori arnynt, ac yn rhoddi i'r Cymro wybodaeth a chyfarwyddyd mewn pynciau na chyffyrddid â hwy o'r blaen o gwbl yn ei iaith ei hun. Caed ail-argraffiad diwygiedig ohono yn 1862, ac y mae'n amhosibl mesur y gwasanaeth a fu y Gramadeg bychan ond cynwysfawr ac eglur hwn i gerddorion Cymru." Mewn man arall rhydd iddo glod uwch na hyn hyd yn oed:

"Pa mor uchel bynnag y rhoddir Alawydd fel cyfansoddwr fe gymylir y gogoniant hwnnw gan y bri a berthyn iddo mewn cysylltiad â'i Ramadeg. Ni chyhoeddwyd ond yn anaml Ramadeg mor gynwysfawr a'r gwaith bychan hwn nac yn sicr mo'i hafal yng Nghymru na chynt na chwedyn