Yr unig bwynt ar ba un yr ydym yn cweryla ag ef yw y defnyddiad diangenrhaid a wneir ynddo o dermau tramor am yr erwydd, y nodau," etc.
Ei athro arall y pryd hwn oedd Ieuan Gwyllt. Daeth Ieuan i Ferthyr i olygu'r Gwladgarwr yr un flwyddyn (1858) ag yr aeth Emlyn i Benybont, a diau i'r olaf ddod dan ddylanwad symbyliadol yr ysgrifau ar gerddoriaeth yn Y Gwladgarwr, a'r darlithiau a draddodid gan y golygydd yn nhrefi Morgannwg. Ym mis Mawrth, 1861, cychwynnwyd Y Cerddor Cymreig—cyhoeddiad a ddatblygodd ac a ddisgyblodd (ac yr oedd llawn cymaint o eisieu disgyblu ag oedd o eisieu datblygu) y deffroad cerddorol drwy Gymru benbaladr. Ni ellir byth fesur ei ddylanwad ar gerddoriaeth a cherddorion ieuainc Cymru yr amser hwnnw. Tra yr oedd Gwilym Gwent, Alaw Ddu, John Thomas, Dd. Lewis, ac Emlyn, fel ei gilydd, dan ddyled ddifesur iddo, yr olaf sydd wedi cydnabod y ddyled honno gliriaf mewn geiriau. Wele rai sylwadau o'i eiddo o fysg llawer:—
"Saif Ieuan Gwyllt ar ei ben ei hun ymysg Cerddorion Cymreig, heb yr un cymhar, ac mewn amryw ystyriaethau heb ei hafal. Hyd at y gwyddom, ni chyfansoddodd nac oratorio, na chantawd, na chytgan, na chanig, na chân; dim ond un anthem (neu, efallai, ddwy), ychydig emyn-donau, salmdonau, a darnau i blant, ynghyd a threfnu a chynganeddu nifer o hen donau, a rhai anthemau; er hynny, ystyrir ef yn un o brif gerddorion y genedl (a hynny yn ei chyfnod cerddorol euraidd cyn belled ag y mae a fynno â'r gorffennol) a hynny yn gywir yn ein barn ni, nid oherwydd dim a gyfansoddodd, ond oherwydd ei wasanaeth