i gerddoriaeth mewn cyfeiriadau eraill fel diwygiwr ein caniadaeth grefyddol, fel casglydd a golygydd, fel beirniad manwl a gonest, fel elfennydd a gramadegydd trwyadl, ac fel ysgrifennydd Cymraeg cywir a choeth. Y mae y cyfeiriadau yna yn llawn mor bwysig a'r un gyfansoddiadol, y mae y meysydd yn helaeth a lluosog, a'r llafurwyr yn anaml. Gadawodd Ieuan Gwyllt fwy nag un bwlch yn wâg pan y'n gadawodd ni, a byddai wasanaeth i'r wlad, ac yn llesol iddynt hwythau, pe bae rhai o'n cerddorion ieuainc yn ymdrechu dilyn ol ei gamrau ef: nid yw hoffder o gerddoriaeth ac awydd i gyfansoddi yn un prawf fod dyn wedi ei eni i fod yn gyfansoddwr. Gwyddai Ieuan Gwyllt hynny o'r goreu, ac yr oedd yn ddigon call a gonest i weithredu yn unol â hynny. Gadawodd gyfansoddi i'r rhai hynny a deimlent fod neges wedi ei hymddiried iddynt ag yr oedd yn rhaid iddynt ei dweyd yn eu cyfansoddiadau." "Creodd ei Lyfr Tonau chwyldroad yn ein caniadaeth gynulleidfaol. Gwnaeth i ffwrdd â'r hen dônau ehedganol, cymysgedig, gan fabwysiadu yn eu lle arddull y gorale ddefosiynol.
Caniateir yn gyffredin, bellach, iddo ddefnyddio'r gyllell hytrach yn rhy ddiarbed, ond dyna ydyw hanes pob diwygiad, ac os y gwnaed ychydig gamwri, yr oedd y da a effeithiwyd yn ei orbwyso yn ddirfawr." Am Y Cerddor Cymreig, dywed ei fod
"Yn gyhoeddiad cerddorol o deilyngdod uchel a olygwyd ganddo am amryw flynyddau, a thrwy gyfrwng yr hwn y gwnaeth yn adnabyddus i'w gydwladwyr nid yn unig nifer o'r cyfansoddiadau Cymreig goreu, ond hefyd amryw o eiddo'r prif