feistri; heblaw gwellhau tôn gerddorol y wlad, a datblygu talentau ein cyfansoddwyr, trwy ei erthyglau a'i feirniadaethau, y rhai a nodweddid gan dderchafiaeth eu syniadau, a phurdeb eu hiaith."
Nid oes wybodaeth sicr pa bryd yr enillodd Emlyn ei wobr gyntaf am gyfansoddi tôn gynulleidfaol. Ysgrifenna y Parch. T. G. Jones (Tafalaw) ato ym Medi, 1890, fel hyn:
"Nid wyf yn gwybod fy mod erioed wedi eich gweld, ond yr wyf yn eich adnabod yn dda, er hyn oll. Os iawn hysbyswyd fi, chwi a enillasoch eich gwobr gyntaf am dôn gynulleidfaol dan fy meirniadaeth i mewn eisteddfod wledig fechan yn Ffordd-y-gyfraith, yn agos i Pyle—ddeng-mlynedd-ar-hugain yn ol."
Yn ol yr hanes o'i fywyd a ymddangosodd yn y papurau adeg ei farw, enillodd ei wobr gyntaf yn 1863 dair blynedd ar ol yr uchod. Efallai nad yw Tafalaw yn siarad yn fanwl, nac, efallai, wedi cael yr hanes yn gywir am ei wobr gyntaf (fel y gwelir, nid yw'n sicr); ond y mae braidd yn sicr iddo fod yn llwyddiannus cyn 1863, oblegid ymadawodd am Cheltenham y flwyddyn honno, ac yr oedd wedi ennill am y dôn oreu mewn amryw eisteddfodau lleol cyn mynd, gan i mi ei glywed ef ei hun yn dweyd, wrth sôn am gerddor oedd wedi arfer cipio'r wobr yn gyffredin am y dôn yn ardal Penybont, ei fod yn credu na faddeuodd iddo ef (Emlyn) byth am ddod i fewn i'w preserves ef. Ond nid yw'r mater o bwys, nac, efallai, o ddiddordeb neilltuol, ond fel y dengys inni ymgais wylaidd yr awen ieuanc i dreio'i haden yn y cylch llai cyn mentro allan i awyr gylch helaethach yr Eisteddfod Genedlaethol, yr hyn a gawn yn ei gyfnod nesaf.