Y mae'r Eisteddfod yn feistres ddrwg yn hytrach nag yn forwyn dda, pan y mae uchelgais y cystadleuydd yn dechreu ac yn dibennu gyda'r wobr. Ond nid yw hyn yn wir am Emlyn hyd yn oed yn ei ddyddiau mwyaf uchelgeisiol a phybyr. Y mae'n ddiau ei fod, fel dynion ieuainc eraill, eisieu rhagori ac "ennill y dorch"; ond dengys ei lythyrau at gyfeillion, yn gystal â'n gwybodaeth am ehangder ei ddarlleniad a'i astudiaeth, fod ei uchelgais yn llawer uwch na hyn. Dengys ei gyfansoddiadau nad oedd ei burdeb cerddorol yn caniatau iddo goginio'r gân i foddio chwaeth y beirniad er mwyn gwobr, fel y sonnir fod beirdd y dyddiau hyn yn gwneuthur, drwy flasu eu cynhyrchion â sawyr o'r hen awduron. Gwyddom fod hyn yn ei olwg yn llygriad ar farddas a chân.
Ymddengys oddiwrth ei lythyrau hefyd na chyfansoddai ond tan ddylanwad ysbrydoliaeth. Dengys llythyrau ei gyfeillion cerddorol yr un peth. Am y rheswm hwn, tra na fyn Awen fawr yr oesoedd arddel y rhan fwyaf o gynhyrchion celfyddydol (made-to-order) yr Eisteddfod, y mae y rhan fwyaf o weithiau cerddorol y dyddiau hynny yn fyw o hyd. Help pwysig i hyn, yn ddiau, oedd y ffaith fod y cystadleuwyr yn cael dewis eu testunau a'u geiriau eu hunain, tra nad oedd ond y math ar gyfansoddiad a ofynnid yn cael ei nodi!
Symbyliadol ac hyfaddas i gyfnod twf y cystadleuydd mewn llên a chân yn unig oedd yr Eisteddfod yn ei olwg; felly pan gyrhaeddodd oedran gŵr (mewn cerdd) rhoddes heibio ei bethau bachgennaidd. Nid iawn dweyd ei fod yn coleddu syniadau addfed ei gyfnod olaf (Pennod XX) am swyddogaeth yr Eisteddfod o'r cychwyn; ond gyda bod ei brofiad