yn ehangu, a'i ganfyddiad moesol yn ymloewi, fe ddaeth i'w coleddu, ac yn y diwedd gweithredodd yn unol â hwy.
Gwelir cwrs ei ddatblygiad yn y cyfeiriad hwn yn rhai o lythyrau ac ysgrifau y cyfnod hwn. Y mae'r llythyr borêaf o'i eiddo sydd gennym wedi ei ysgrifennu at ei gyfaill Mr. Dd. Lewis, Llanrhystyd, â'r hwn y daeth i gyffyrddiad yn Eisteddfod Caerfyrddin yn 1867.
Fy Hynaws Gyfaill,
Dyma fi eto, ers rhai wythnosau bellach, ymhell o "wlad mam a thad," a'm can o hyd "O! na chawn fy mhwrs yn llawn," etc. (fe wyr Talhaiarn y gweddill). Wel, ynte, i ddechreu,—a dechreu dipyn yn Largo ydyw, onide ?—gobeithio eich bod yn iach a chalonnog, ac yn cyfansoddi ei chalon hi (chwedl ni yr Hwntws). Mae'n debig eich bod yn ysgrifennu Canig i Porthmadog—felly finnau, ac y mae'n barod ers dyddiau, ond ei chopio—a dyna'r dasg drymaf gennyf. Yr wyf hefyd wedi newydd ysgrifennu anthem fechan i gystadleuaeth arall, a thua hanner dwsin o donau cynulleidfaol er pan ddychwelais. Ysgrifennais i Gaernarfon am rifyn o'r "Herald" yn cynnwys manylion cystadleuaeth "Y Chwarelwr," ond nid oedd un yn weddill—gadewch i mi gael y manylion oddiwrthych, ac efallai y gwnaf gyfansoddi Unawd a Chytgan bach. Mae defnyddiau Rhangân fechan Saesonaeg yn rhedeg yn fy mhen yn awr, fel nas gallaf wneud nemawr o ddim nes eu rhoddi ar ddu