Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/55

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gwyn. Anfynych iawn yr wyf yn ysgrifennu i eiriau Seisnig; yn wir, anaml iawn y mae barddoniaeth Seisnig yn fy nharo o gwbl: wedi'r holl ddwndwr, nid oes feirdd fel beirdd hen Walia!—eu coll pennaf yw prinder cyfaddasrwydd cerddorol eu cynyrchion, onide?

**** Ychydig iawn o'ch cyfansoddiadau chwi ydwyf wedi weld, yn enwedig eich Salm donau—dim ond un neu ddwy ar y goreu; hoffwn gael golwg ar ragor yn fawr.

Yr wyf wedi addaw beirniadu y ganiadaeth (a'r gerddoriaeth) yn Glyn Ebbwy y Nadolig nesaf, ac wedi hanner addaw, druan o honwyf, am y Nadolig dilynol, mewn man arall. Chwi welwch y caf ddigon i wneud o hyn i'r Nadolig: byddai yn dda iawn gan fy nghalon (a'm corfl) fod dipyn yn llonydd.

Rhowch air yn ol pan yn gyfleus, a faint fyd a fynnoch o'ch helynt chwi eich hun. Na fydded i ni fod yn ddieithr i'n gilydd. Mae gennyf atgofion pleserus o'n cydnabyddiaeth yng Nghaerfyrddin yr ydych yn cofio chwedl y "Cheltenham Chap"![1]

Eich cyfaill,
Dd. Emlyn Evans.

Dengys y llythyr hwn ei fod yn y dwymyn gystadleuol, ond nad oedd yn gallu ysgrifennu cerddoriaeth i eiriau heb gael ei "daro " ganddynt, ac fod meddylddrychau

  1. Dywed Mr. John Thomas fod llwyddiant un mor ieuanc wedi taro dychymyg y dorf yn Eisteddfod Caerfyrddin fel ag iddi wneud math ar arwr ohono dan yr enw uchod, gan ffurfio'n orymdaith i'r orsaf ar ei ymadawiad â'r dref.