yn "rhedeg yn ei ben" ac yn ei orfodi i'w gosod i lawr ar "ddu a gwyn." Ac mor gyfeillgar yw'r llythyr nid llythyr un am ennill gwobr yn bennaf ydyw, gan nad yw'n celu dim oddiwrth ei gyfaill, nac yn disgwyl i'w gyfaill gadw dim oddiwrtho yntau. Ef enillodd ar y Ganig ym Mhorthmadog allan o 20 (gyda'i Wanwyn) ac ar Y Chwarelwr yn Nhalysarn. Cyhoeddwyd y ddau yn Y Cerddor Cymreig. Yr un lle a roddir i gystadleuaeth yn y cyfnod yn ol atgof ei gyfaill John Thomas amdano mor ddiweddar a'r flwyddyn 1902:—
Annwyl Emlyn,
Nis gallaf ddweyd pa mor dda oedd gennyf gael gair oddiwrthyt. Y mae gweled dy lawysgrif ar amlen llythyr yn gyrru rhyw deimlad drwy fy nghalon nad oes dim arall yn ei gynhyrchu. Yr oeddwn ar fedr ysgrifennu atat o hyd ac o hyd, ond fel y gwydaost bellach, nid yw hynny ond fy hen hanes. Teiniais yn fawr pan welais am farwolaeth dy annwyl dad. Daeth hen atgofion am yr oriau hyfryd a dreuliasom yn Cwmcoy (Pontgeri) yn fyw i'm cof—oriau melus odiaeth oedd y rheiny. Fel mae'r byd yn newid, onide? Ac mor werthfawr yw fod rhai o hyd yn aros. Onid oedd amser cystadlu ac ymgodymu mewn ysbryd cariadlawn yn felusach rywfodd na'r amser addfetach hyn? Amser oedd hwnnw pan yr oedd pethau cerddorol yn ymagor ac yn ymagor yn