Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/57

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ogoneddus i'n meddyliau, a ninnau yn cael nefoedd o fwynhad yn yr olwg arnynt. Y mae rhyw swyn wedi mynd ar goll erbyn hyn.

****

Yr eiddot,
John.

Os rhannwn yr ail gyfnod yn hanes Emlyn i ddau (1860-69 ac 1870-79), yr oedd y blaenaf o'r rhain, yn neilltuol y blynyddoedd a dreuliodd yn Cheltenham o 1863 ymlaen, y mwyaf tyfol a phybyr yn ei hanes. Ond gorweithiodd ei hunan: ymdaflodd gyda'r fath eiddgarwch, nid yn unig i gyfansoddi, ond hefyd i astudio a darllen, gan gwtogi oriau cwsg, nes amharu ei iechyd yn fawr. Y pryd hwn yr ymaflodd y gastralgia blin ynddo, yr hwn a'i dilynodd weddill ei oes.

Yr oedd ei wir fywyd yn guddiedig; ac nid oedd ei gystadleuaethau eisteddfodol ond ymgyrchoedd i fyd hanes allan o'r byd dirgel lle'r oedd ei brif ddiddordeb; ac os am gael syniad cywir amdano y mae'n rhaid i'r darllenydd feddwl, nid am ei lwyddiant fel cystadleuydd, ond am ddyn ieuanc o draper, wedi oriau hirion y siop, yn treulio'i oriau hamdden—os iawn sôn am "hamdden," pan âi i gysgu am un ar gloch y bore, gan godi eilwaith am chwech—yng nghwmni prif feistri cerdd Cymru, Lloegr, yr Eidal a'r Almaen. Dywed yr athronydd Hegel mewn un man fod ein bywyd allanol o bwys nid yn gymaint ynddo'i hunan, gan mai peiriannol, ac felly ar-wynebol ydyw o ran ei natur, ond am ei fod yn dangos y fath ydyw ein cyflwr mewnol. Yn yr un modd, y mae'n rhaid cysylltu y cyfnod yma yn hanes ein gwrthrych yn neilltuol â'r Eisteddfod, am mai ar ei