Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/58

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

maes hi y caffai gyfle i ddangos ei gynnydd yn y dirgel a'r dwfn—nid am ei bod, mewn modd yn y byd, yn dihysbyddu holl gyfoeth ac ystyr ei egnion. Estynnodd ei gysylltiad â'r Eisteddfod Genedlaethol dros dri chyfnod yn ei hanes hi, sef y gyfres a gychwynnwyd yn Aberdâr yn 1861, dan yr enw "Yr Eisteddfod" y gyfres a gynhaliwyd yn y Gogledd rhwng 1870 ac 1880, dan yr enw "Yr Eisteddfod Genedlaethol "; a'r gyfres a ddechreuwyd ym Merthyr yn 1881, pan ail—unodd De a Gogledd i gynnal yr Eisteddfod ar yn ail. Cystadleuydd ydoedd yn y cyfnod cyntaf a'r ail, a beirniad yn yr olaf.

Ond fel na ellir deall myfyriwr yn llawn ond yn amgylchfyd ei athrawon a'i gydysgolheigion, i'w weld yntau yn iawn yn ystod y cyfnod hwn, y mae'n rhaid rhoddi sylw yn y fan hon i'w feirniaid a'i gyd-ymgeiswyr.