VII.
EI FEISTRI.
YN ei erthygl ar ddatblygiad cerddoriaeth yng Nghymru, enwa bedrawd o gerddorion Cymreig oedd fwyaf blaenllaw yn ystod dechreu cyfnod cerddorol yr Eisteddfod "wrth draed y rhai yr eisteddai y nifer fwyaf o'n prif gerddorion presennol" (1890), sef Ambrose Lloyd, Owain Aaw, Ieuan Gwyllt, a Thanymarian. Yn ffodus y mae gennym ei sylwadau ef ei hunan arnynt—sylwadau sydd yn mynegi ei werthfawrogiad ohonynt, ac, yn anuniongyrchol, ei ddyled iddynt.
Yr ydym eisoes wedi cael ei sylwadau ar Ieuan Gwyllt, a gyfrifai'n fwy o athro na'r lleill, a'i brif athro ei hunan.
Am Ambrose Lloyd, dywed:—
"I bawb sy'n caru Cymru nid oes berygl yr â ei enw yn anghof, na'i gyfansoddiadau tra parhao'r Gymraeg, ac, ysywaeth, tra y cenir cerddoriaeth bur a choeth. . . .
"Yn nosbarth y Dôn (gynulleidfaol) y mae'n ddiamheuol ei fod uwchlaw neb o'i gydoeswyr yng Nghymru, os nad Lloegr hefyd, nid yn unig yn rhif ei gyfansoddiadau, ond hefyd yn eu gwerth. Nid ydym yn meddwl ein bod yn euog o ormodaeth pan y traethwn ein cred y bydd canu ar y Groeswen, Wyddgrug, Eifionydd, ac eraill, tra y bydd moli'r Goruchaf mewn Salm ac Emyn. Saif ar ben y rhestr hefyd fel anthemydd, a chanigydd.