Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddestlus, ysgolheigaidd, a gwreiddiol iawn. Testyn yr awdwr hwn eto yw 'Y Gwanwyn.' Y mae newydd-deb y cyfansoddiad hwn o ran ei felodedd, ei amrywiaethau mydryddol, ei gyfuniadau a'i liwiadau cynghaneddol yn dra hudoliaethus. Ac ar gyfrif y pethau hyn, yr ydym yn rhestru 'Brwynog' ym mlaenaf yn y gystadleuaeth galed, orchestol hon.

"Ar ol mynd trwy y cyfansoddiadau gyda gofal a manylrwydd, gallwn ddweyd na fuom yn beirniadu mewn un gystadleuaeth fwy gorchestol erioed. Yn wir nid yw y blaen a enillodd Brwynog ar y rhai hyn ond ychydig: ond nid ychydig o gamp oedd enill y flaenoriaeth o gwbl pryd yr oedd cewri mor rymus yn y rhedegfa."

Cân a Chytgan "Y Chwarelwr ":—

Franz Schubert.— . . . Mae yr awdur yn ymafaelyd yn ei waith fel un ag sydd yn deall ac yn teimlo ei destyn. . . . Heblaw y dewrder a'r gwroldeb sydd yn nodweddu y chwarelwr, mae y cyfansoddiad hwn yn arliwio yn helaethach a mwy llwyddiannus nag un o'r lleill y boddineb y mae ynddo yn a chyda'i waith. Mae y tair elfen yn cydredeg mewn modd tra hapus trwy yr holl gyfansoddiad, ac ymddengys nad ydyw llaw gyfarwydd y cerddor ddim un amser mewn diffyg am ddefnyddiau i ddwyn allan ddelweddau ei ddarfelydd."

Y mae hyn yn glod uchel i gerddor ieuanc 24ain oed.

Symudwn ymlaen bedair blynedd a chawn feirniadaeth Tanymarian a Phencerdd Gwalia ar ei Ymdeithdon fuddugol yn Eisteddfod Madog:—