Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Teimlir ynni milwrol ac ysbryd gwronaidd ymhob brawddeg; yn sicr, dyma y cyfansoddiad llawnaf o arwedd ymdeithdon, y mwyaf cyfoethog a chlasurol ei gynghanedd, y mwyaf fresh a melodaidd ei beroriaeth, a'r mwyaf hudolus a gorthrechol ei ddylanwad o'r oll ohonynt."

Ym Mhwllheli cawn y triawd, Owain Alaw, Pencerdd Gwalia ac Ieuan Gwyllt, yn gwobrwyo ei Rangan yn y geiriau hyn

"Dyma waith cerddor diwylliedig, meddwl a darfelydd barddonol, gwreiddioldeb neilltuol. Y mae y miwsig wedi ei uno a chân fechan dlos gan ein cydwladwr talentog Mynyddog, yn dwyn y teitl, Mae natur lan yn gân i gyd' gyda chyfieithiad hynod farddonol gan Mr. Titus Lewis. Y mae y cyfansoddiad hwn mor bell uwchlaw unrhyw un o'r lleill, fel nad oes gennym unrhyw amheuaeth i ddyfarnu y wobr iddo."

Gwelir mai'r nodweddion a gymeradwyir yw gwreiddioldeb, newydd-deb melodedd, a chyfoeth clasurol y gynghanedd. Yr oedd y pryd hwnnw, y mae'n amlwg, yn cyfuno dawn wreiddiol i greu â llawer o ddiwylliant a choethder.

Yn ei ddarlith ar Emlyn gwna Mr. Dd. Jenkins y pedrawd a enwir uchod yn bumawd, drwy ychwanegu Pencerdd Gwalia atynt. Dyna'r hyn a ddywed Emlyn am yr olaf:

"Er nas gellir dweyd i'w gyfansoddiadau effeithio ar Gerddoriaeth Gymreig yn uniongyrchol, gwnaeth. lawer er mwyn gwneud ein halawon cenedlaethol yn adnabyddus i'r byd, ac yr oedd yn Gymro twymgalon,"