Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/65

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Daeth Emlyn dan ei ddylanwad ef a Mr. Brinley Richards yn fwyaf neilltuol drwy eu gwaith ynglŷn â'n halawon cenedlaethol, a bu'n gohebu â hwy am flynyddoedd.

Y mae y llythyr a ganlyn oddiwrth y Pencerdd, a ddewisir o fysg amryw oddiwrtho, yn dangos eu perthynas gyfeillgar â'i gilydd,—dengys hefyd fod y cyn-ddisgybl erbyn hyn yn cael ei gyfrif yn frawd.

53 Welbeck St.,
Cavendish Square, W.
Mawrth 26, 04.

Fy Annwyl Emlyn,

Y mae fy sylw wedi ei alw at eich nodiadau caredig ar fy nghwrs cerddorol yn y South Wales Weekly News; ac yr wyf yn brysio i ddiolch i chwi yn galonnog am natur gyfeillgar a chanmoliaethus eich sylwadau.

Yr ydym wedi bod yn gyfeillion am lawer o flynyddoedd, ac er mai anaml y cwrddwn yn awr, yr wyf yn gwerthfawrogi eich cyfeillgarwch gymaint ag wyf yn edmygu eich talent fawr.

Y mae ein cydoeswyr (contemporaries) yn pasio ymaith un ar ol y llall, ond hyderaf y cewch chwi a minnau ein harbed i lafurio yng ngwasanaeth ein celfyddyd, ac annwyl wlad ein genedigaeth.

Gyda chofion cynnes atoch chwi a Mrs. Evans, Yr eiddoch fyth yn ffyddlon,
John Thomas.

Dengys ei ysgrifau ei fod hefyd yn mawr werthfawrogi gwasanaeth J. D. Jones, Hafrenydd, Tavalaw, ac