eraill, i gerddoriaeth Gymreig; ond nid oeddynt hwy yn gallu rhoddi nemor gymorth iddo yn y moroedd newydd yr ymwthiai iddynt yn awr.
Ond cafodd yr help a'r ysbrydoliaeth bellach a geisiai, mor bell ag y gallai astudiaeth galed eu dwyn iddo, yng ngweithiau y prif feistri Ellmynig. Gwelsom ei fod wedi ei ddwyn i gyffyrddiad â rhai o'u gweithiau yng nghasgliadau Hafrenydd, a'i fod wedi clywed rhai o'r prif oratorïau—eiddo Handel yn bennaf —yn cael eu perfformio ym Morgannwg;—yn wir, ei fod wedi cymryd rhan yn y perfformiad ei hunan; ond yn awr y daeth i fod yn astudiwr deallus a chyson ohonynt.
Ni ellir bod yn sicr ynghylch cwrs ei astudiaeth; ond y mae'n amlwg fod amgylchiadau yn peri iddo gychwyn gyda Handel. Tebig y gelir edrych ar a ganlyn fel yn cynnwys elfen hunan-fywgraffyddol:
"Diolch i lafur y Millsiaid, a'u cyd-drefwr Hafrenydd, ac o bosibl eraill, yr oedd nifer o gyd-ganau Handel, gyda geiriau Cymraeg, wedi eu gwneud yn adnabyddus i'r genedl yn y bedwaredd ddeng-mlwydd o'r ganrif; tua'r un adeg daeth y Mri. Novello a'u hargraffiadau o'r oratoriau; yr hyn a gafodd ddylanwad eglur ar ein cantorion yn gystal a'n cyfansoddwyr, fel y profir yn amlwg gan weithiau Lloyd, Owen, Stephen, ac eraill. I raddau helaeth yr ydym wedi bod yn byw am flynyddau ar yr hen Sacson gogoneddus, ac wedi pesgi hefyd, os gallwn farnu oddiwrth ymddangosiadau."
Geilw Mozart:—
"Y cerddor mwyaf nefanedig a welodd y byd erioed," "un o ymherawdwyr y gelfyddyd ddwyf-