ol," "gweithiau anfarwol yr hwn sydd mewn ystyr mor newydd ac mor ddigyffelyb yn awr ag oeddynt ganmlynedd yn ol."
Gallem feddwl mai'n ddiweddarach y daeth i werthfawrogi Beethoven a Bach. Y mae Beethoven hefyd. yn "brif ganiedydd yr oesau "; a chyda golwg ar Bach, ai nid yw a ganlyn yn ddarn o hunangofiant?
"Yn Bach y mae y sylfaen fwyaf cadarn i chwaeth gerddorol dda i'w chael. Fe all fod ychydig yn anodd i'w hadeiladu; ond unwaith yr adeiledir hi nis gall un ymdrech o eiddo y gelyn syth ei thynnu i lawr a'i malurio. I'r cyhoedd, efallai, y mae Bach yn fath o beth 'sa' draw,' eto ar ol ychydig efrydiaeth, y mae unrhyw efrydydd cerddorol sydd o ddifrif gyda'i wersi yn dysgu ei hoffi uwchlaw ymron bopeth. Hwyrach yr aiff blynyddau heibio . . . (ond) unwaith daw y cariad hwn at Bach i fodolaeth, y mae diddanwch sylweddol i'w gael bob amser gan y gweithiwr, yn y wybodaeth nas gall nac amser na defod byth ddwyn oddiarno na llwydo yr amrywiaeth di—ddiwedd sydd yng ngweithiau y gwrth—bwyntydd mawr. . . . Bydd i efydydd doeth, neu un a gafodd addysg dda, astudio gweithiau Bach o'r dechreu i'w diwedd." . . .
Eto, ar y cyfan, cafodd Mendelssohn gymaint o ddylanwad ar ei ddelfryd cerddorol a'r un edmygai ef—fel Ambrose Lloyd ac Ieuan Gwyllt—fel dyn yn gystal ag fel cerddor.
Ni weithiodd neb yn fwy llwyr a mwy dihunanol yn y winllan gerddorol na Mendelssohn, a hynny pan yr oedd cymaint yn ei sefyllfa a'i amgylchiadau i'w ddenu i gyfeiliorni. Er ei fod yn un o'r ychydig