gerddorion a aned a llwy arian yn eu genau, ni syflodd yr un foment oddiwrth y pur a'r perffaith; ond gwnaeth ei oreu teg i ddilyn ei hoff gelfyddyd yn ysbryd iselfrydig y gwir awenydd, gan droi allan waith oedd yn onest a thrwyadl bob amser." Pe gofynnid iddo am eu safle gymharol, ei ateb fyddai "fod gwahanol bersonau wedi eu cynysgaeddu â gwahanol ddoniau ac fod yn y byd le i'r naill fel llall." Ymddengys ei fod yn dyfynnu gyda chymeradwyaeth yr hyn a ddywed Rubinstein:
"Heulwen dragwyddol cerddoriaeth dy enw yw Mozart! ond y mae dynoliaeth yn sychedu am ystorm; teimla y gall fynd yn sych a chraslyd yn nhesni parhaol Haydn-Mozart; y mae yn awyddus am draethu ei theimladau o ddifrif, hiraetha am wneud gwaith; â yn ddramataidd; clywir adseiniau y chwyldroad Ffrengig: ymddengys Beethoven!
"Aeth Beethoven a ni yn ei ehediadau i fyny at y ser, ond oddi isod y mae cân yn adseinio. "O deuwch yma, y mae y ddaear hefyd yn hyfryd' —cenir y gan hon gan Schubert."
Eto, prin y tybiwn ei fod yn fodlon i waith Rubinstein yn cymharu Bach i Eglwys Gadeiriol tra nad yw Handel ond Plas Brenhinol.
Yr oedd y pryd hwn hefyd—a pharhaodd i fod—yn edmygwr mawr o'r Canigwyr a'r Anthemwyr Seisnig. Yr oedd yn dra chydnabyddus ag ysgol yr Eidal, ond nid ymddengys fod ei gydrywdeb (affinity) â hi yn gymaint ag ydoedd ag eiddo'r Ellmyn. Dengys y daflen o'r gweithiau a adawodd i'r Llyfrgell Genedlaethol ei fod yn gyfarwydd â holl ysgolion a ffurfiau cân, ond nid oes gennym ddefnyddiau i