Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/70

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VIII.
EI GYMDEITHION.

AR faes yr Eisteddfod, daeth i gwmni arall heblaw un ei feirniaid, sef un o gerddorion ieuainc o allu eithriadol, oedd fel yntau yn ymwthio i mewn i gyfrinion Cerdd, ac fel yntau yn "flaen ffrwyth y Gymru gerddorol oedd i ddod"; rhai fu'n cyfoethogi cerddoriaeth eu gwlad am flynyddoedd wedyn, ac a ddaethanti fod feirniaid ac arweinwyr yr oes nesaf.

Fel hyn y sieryd yr Athro Dd. Jenkins amdanynt —

"Ystyriwn mai adeg euraidd yr hen Gerddor Cymreig oedd yr adeg honno pan oedd cyfansoddiadau Gwilym Gwent, Alaw Ddu, John Thomas, Dr. Parry, ac Emlyn Evans, yn dod allan y naill ar ol y llall. Fe fu'r pump cyfansoddwr hyn yn cadw y maes iddynt eu hunain, naill ai yn y cylch cystadleuol, neu yn Y Cerddor Cymreig heb neb yn dod i ymyraeth a'u safle. Yr oedd Ambrose Lloyd, Owain Alaw, Tanymarian, D. Lewis, Llanrhystyd, ac Fos Llechid, wedi ymddangos o'u blaen. Credwn mai yn adeg y pump hyn y daeth canu corawl Cymru yn boblogaidd; ac y mae yn glod i'r arweinyddion oedd yn flaenllaw yr adeg honno eu bod wedi cymryd i fyny y darnau a gyfansoddwyd ganddynt, yn ganigau, rhanganau, ac ambell i anthem a chytgan.

"Yr oedd awyddfryd yr adeg honno i ddysgu darnau newyddion, ac y mae gennym gof byw, fel yr edrychem ymlaen at r Gerddor er mwyn gweled gwaith pwy a pheth fyddai nodwedd y darn; ac mor aiddgar y cymerid ef i fyny at