Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eisteddfod neu gyngherdd. Dim ond yn Y Cerddor yr edrychid am, ac y ceid, cerddoriaeth newydd yr adeg honno, a daeth y pump allan fel 'twr o ser' yn y ffurfafen, bron yr un pryd, ac i ganlyn eu gilydd, fel na lwyddodd neb am flynyddau lawer i ddringo i fyny atynt. Aml i ymgais wnaed i'w curo mewn cystadleuaeth, neu gynhyrchu rhywbeth a fuasai'n deilwng i'w osod ochr yn ochr a'u cynyrchion. Gwir eu bod yn amrywio rhyw gymaint, ac i rai ohonynt daro allan i gyfeiriadau newyddion, eto, hwy oedd yn teyrnasu yn y byd cerddorol yr adeg a nodwyd, a chwith gennym fod tri o'r pump wedi ein gadael (1904), ond da gennym fod dau yn aros i oleuo r llwybr, ac i gyfarwyddo y rhai sydd yn dilyn, a hir y caffont iechyd barhau yn y gwaith.

"Buom yn edmygydd mawr ohonynt am flynyddau, ac yn eu canlyn 'megis o hirbell' a gobaith gwan oedd dod yn agos atynt, hyd nes i'r ganig a'r rhangan ddechreu mynd allan o arferiad, ac i'r cytganau i leisiau meibion a'r cantawdau ddod i fwy o fri. Nid yw o bwys yn awr pa rai ohonynt ddechreuodd droi at y ffurfiau hyn, ond yn raddol y gwnaed hynny. Byth ar ol y cyfnod yna, y mae ein cyfansoddwyr o ryw werth wedi dod ger bron yn anniben ac heb drefn, ambell i seren yma a thraw ac ymhell oddiwrth ei gilydd."

Emlyn oedd yr olaf a'r ieuengaf i ymddangos yn y "twr sêr." Yr oedd Gwilym Gwent, Alaw Ddu, a John Thomas wedi codi dros y gorwel ers rhai blynyddoedd. Yn Eisteddfod Abertawe yn 1863, fflachiodd Joseph Parry i'w plith gyda disgleirdeb mawr, ac wedyn yn Llandudno yn 1864.