Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/73

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyn diwedd 1861; ac yno yr oedd Telynog yn byw. Yr oedd Gwent yn beirniadu cyfansoddiadau cerddorol mewn Eisteddfod Nadolig 1861; ac y mae ei feirniadaeth yn fy meddiant, wedi ei dyddio Cwmbach Rhag. 17eg, 1861.' Yr wyf fi dan yr argraff mai yn 1862 y cyfansoddodd 'Yr Haf,' ond ni wnawn lw ar hynny. Lled debig ei fod, fel y dywedwch, yn y gystadleuaeth yn Abertawe yn 1863.

"Yr wyf yn cofio yn dda ei fod ef, a'r Cymro Gwyllt, a minnau, gyda'n gilydd yn Eisteddfod Caerfyrddin; ac os nad yw'm cof yn pallu, cafodd Gwilym ei faeddu gennych chwi. Modd bynnag, yr wyf yn cofio ei frawddeg wrthyf am danoch gystal a phe buasai yn ei dweyd yn awr yn fy nghlyw, a bydd hyn yn newydd i chwi: Wir, Dafydd, un bach da yw'r Emlyn yna, ond lled ifanc yw e' eto, i ymladd a hen geilogod.' Dyna hi, fel ag y dywedwyd hi. Wrth gwrs, nid yw y gair 'bach' yn yr 'un bach da' yn golygu un bychan, ond gwyddoch yr arferir ef o anwyldeb a pharch mewn ymadroddion cyffredin ym Morganwg a Mynwy; a dyna yr ystyr roddai Gwilym iddo.

Cofion anwyl a pharchus,

Dafydd Morganwg."

Pa ffugr bynnag a ddewiswn—"sêr" neu "geiliogod" —cafodd ef ei hun yn eu plith yn dra ieuanc; fel y dywed Mr. Jenkins, nid camp bach mo hynny. Gelwir ambell i flwyddyn yn ein prif golegau yn "flwyddyn fawr," pan y mae nifer o'r ysgolheigion