yn gwbl deilwng o fod yn flaenaf ac yn rhai a fuasai'n flaenaf flynyddoedd eraill; a chyfnod "mawr" yn hanes cyfansoddiadaeth gerddorol yr Eisteddfod oedd y cyfnod hwn. Nid amcanwn ddilyn ei gwrs cystadleuol ymhellach na dweyd iddo ennill tua 66 o wobrwyon yn ystod rhyw ddwsin o flynyddoedd. Y mae'n deg cofnodi hyn, megis ag y rhoddir hanes llwyddiant athrofâol gwŷr eraill wedi cael manteision gwell cystadleuaeth eisteddfodol oedd yn ffurfio agwedd arholiadol cwrs y cerddor ieuanc yng Nghymru y pryd hwnnw, ac y mae'n eglur iddo basio'i arholiadau'n llwyddiannus a chydag anrhydedd, gan ennill cymrodoriaeth (fellowship) ymysg y goreuon. Y mae'n iawn cofnodi hyn; ond dyma'r hyn y dymunir ei bwysleisio: iddo gael ei alw i amlygrwydd arbennig mewn cwmni cydnaws gan gyfnod neilltuol o adfywiad yn hanes cerddoriaeth Cymru; iddo dreulio tymor ei brentisiaeth yn selog ac egnïol, ac felly bartoi ei hun ar gyfer cyfnod o wasanaeth lletach i'r oes nesaf; ac fel y dilynwyd J. Williams, J. Ellis, a D. S. Morgan, gan Mills a'i gyfoedion, a hwythau gan Ambrose Lloyd, Owain Alaw, Ieuan Gwyllt, —a Thanymarian, felly iddo yntau ddod yn y cwmni uchod—yng ngeiriau Mr. Harry Evans—yn "faner-gludydd" cerddorol ei oes.
Un o'r pethau hyfrytaf, ynglŷn â'r cmwni hwn o fechgyn athrylithgar, oedd y wedd gyfeillgar—yn gystal â gwladgar a cherddgar—oedd iddo. Parai cynhesrwydd y cyfnod, a'u hyblygrwydd ieuanc hwythau, eu bod yn cael eu hasio wrth ei gilydd—lle nad oedd hunanoldeb a balchter yn ormod i ystwythder cyfeillgar. Y mae hyn yn beth hyfryd iawn, pan gofiwn eu bod yn cyson gystadlu â'i gilydd.