Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/76

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ysgrifennwch air ataf pan y caffoch hamdden a thuedd, ac ar ol y Nadolig mi a yrraf linnell atoch eto.

Bachgen rhagorol, caredig, talentog, a diymffrost yw ein cyfaill o Blaenanerch, ond rhaid i chwi ei ddwrdio am ymhel â Barddoniaeth, a gadael Cerddoriaeth ar ei hanner!

Llwyr wellhaed eich iechyd yn fuan,

Eich cyfaill

D. Emlyn Evans.

Y mae'r nesaf yn ddiddorol ar amryw gyfrifon:

Cheltenham,
10 Chwef., 68.

Fy Hynaws Gyfaill,

Yr wyf wedi addaw i mi fy hun ysgrifennu gair neu ddau atoch ers dyddiau, ond hyd yn hyn wedi methu hepgor amser—nid am fy mod wedi bod rhyw brysur iawn chwaith, canys oddiar y Nadolig nid wyf wedi cyfansoddi dim yn neilltuol oddieithr rhyw fân feddyliau' yma ac acw (ag eithrio yn wir Ranganau erbyn Rhuthyn). Efallai fod ychydig ddiogi arnaf hefyd!

Wel, yn gyntaf, chwi wyddoch, mae'n debig, mai Blaenanerch aeth a'r Dôn yng Nglyn Ebbwy—'W. T. Best' yn ail. Hoffem i chwi yrru at y cerddor o Blaenanerch am gopi o'r Dôn. Yr oedd symlrwydd ac arddull Eglwysaidd W. T. Best' yn fy moddio yn fawr, ond yr wyf yn gryf o'r farn y cydunwch a mi—pan welwch un Brand yn A fwyaf '—mai efe wedi'r cyfan oedd y goreu.

Yr wyf wedi penderfynu ers amryw wythnosau ymadael a Cheltenham, gan nad yw awyr dwymn y lle yn cytuno â mi o'r dechreuad. Gobeithiaf