Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/77

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod yng Nghymru ymhen tua pythefnos. Byddaf yn myned i fyny i Aberystwyth yn fuan wedyn, ac onid yw Llanrhystyd yn rhywle ar y ffordd? A chan fy mod wedi addaw wrth fy rhieni yr arhosaf gartref am tua dau fis, rhaid i Blaenanerch a ninnau gwrdd yn rhywle y pryd hwnnw—beth debygwch chwi? Pryd hwnnw cewch weld y farn' ar y Tonau os ewyllysiwch. Aeth popeth drwodd yn hwylus iawn yn yr Eisteddfod y Nadolig: yr wyf wedi hanner addaw myned yno y Nadolig nesaf os byw fyddaf—ac wedi llwyr gytuno myned i feirniadu mewn Eisteddfod gerddorol o bwys yno Mai nesaf—20 yn brif wobr, ond nis gwn eto a fydd yno gyfansoddi.

Chwi wyddoch mai yma y daeth y wobr am Ganig Porthmadog, gan fod y rhan gyntaf ohoni yn y Cerddor hwn: pan gwrddwn y mis nesaf, mi gaf air o'ch barn am dani. Derbyniais lythyr maith a diddorol oddiwrth John Thomas yr wythnos ddiweddaf: efe oedd 'Dafydd Jones' a 'Macdonald.' Oeddech chwi yn y pentwr? Bum hefyd yn fuddugol ar anthem angladdol yn y Gogledd—Beirniad y Parch. E. Stephan.

Nid wyf wedi cyfansoddi i'r 'Chwarelwr' eto, ond y mae rhyw symudiadau bychain yn fy mhen yma a thraw. Onid ydynt yn gynnil hynod efo testynau cerddorol Yr Eisteddfod' eleni? Serch hynny, y maent wedi nodi'r Beirniaid, ac hefyd ddau ddarn Cymreig (!!) i'r gystadleuaeth leisiawl.

Ffarwel, fy nghyfaill—rhowch air yn ol o hyn i naw niwrnod. Gobeithiaf eich bod yn iach.

Yr eiddoch hyd byth,

D. Emlyn Evans.