Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/78

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae ei lythyrau nesaf—o Chwef. 26ain hyd ddiwedd Awst—yn cael eu gyrru o Gastellnewydd Emlyn. y cyntaf dywed ei fod yn mynd i Aberystwyth drannoeth, pryd y bwriada alw gyda'i gyfaill. Mewn un arall, dyry wahoddiad iddo i aros yng Nghastellnewydd am ddiwrnod neu ddau adeg Eistedd fod Aberteifi; ac anoga ef i "beidio bod yn ddioglyd" nad oes ond eisieu iddo i "ledu ei adenydd "—eu bod i'w cael. Erfynia am gopi o'r hen alaw "Eos Lais " (o'r Cambrian Minstrel). Dywed fod ganddo ganig yn barod ar gyfer yr Eisteddfod, a datgana ei ofn "fod y dduwies farddonawl wedi rhibo ein cyfaill talentog" o Flaenanerch, am na fwriada gyfansoddi canig ar gyfer Aberteifi.

Tebig na "chyfansoddodd" Mr. Thomas ganig ar gyfer yr Eisteddfod, ond ef gafodd y wobr am ganig a fuasai'n gystadleuol ym Mhorthmadog, pan wobrwywyd "Gwanwyn" Emlyn. Fel hyn yr ysgrifenna at Mr. Lewis yn Awst (1868):—

Hynaws Gyfaill, ***** Mae gennyf ganig' Ser y Nos' yn y wasg: dylasai fod allan ers pythefnos. Yr wyf wedi edrych dros proofs tua hanner o honi. Bydd tua hyd dau Gerddor (o gerddoriaeth) mewn amlen, a'i phris yw pedair ceiniog. Yr oedd gennyf yng nghystadleuaeth Aberteifi, ond gallwn wneud fy llw na fuasai yn fuddugol yno; cafodd yr anrhydedd' o fod yn ail o dan farn Tydfilyn. Yn ol fy marn i, y mae yn un o'r canigau mwyaf effeithiol a gorffennol ag wyf wedi gyfansoddi—chwi gewch farnu. Gwerthais y copyright i Mri. Hughes & Son, Wrecsam, a bydd gennyf rai cannoedd i werthu fy hunan—