efallai y gellwch chwi droi rhai ohonynt yn brês tua Llanrhystyd yna? Tybia rhai, efallai, mai am i'm cyfaill o B'anerch gael y wobr ac i minnau ei cholli, yr wyf wedi ei chyhoeddi, ond camsyniad yw hynny. Pe yn fuddugol, yr oeddwn wedi dweyd wrth un o'r ysgrifenyddion yr hoffwn ei phrynu, fel y gallwn ei chyhoeddi. Yr oedd gan Blaenanerch dair Canig i mewn—y 'Dafydd Jones' ym Mhorthmadog yn fuddugol. Yr oedd Tôn o'r eiddof yn fuddugol heb fod ynddi ddim yn hynod yn ol fy nhyb i. Yr oedd gennyf un arall yn y cywair mwyaf yn ail. Derbyniais ddwy neu dair gwobr fach arall o fannau eraill, a dyna'r oll yn ddiweddar. ***** Dechreu y mis nesaf, lled debig y byddaf yn ym—adael oddiyma: y mae fy iechyd yn awr gryn dipyn yn well. Gobeithio eich bod yn iach a dedwydd,
Yn gynnes,
D Emlyn Evans.
O.N. Mawr ddiolch am y copi o 'Eos Lais.' Ysgrifenna yn yr Hydref o Cheltenham. Y mae a ganlyn yn deilwng le yn y fan hon:—
4 Warwick Place,
Cheltenham,
17 Chwef, 69.
Fy Hynaws Gyfaill,
Tra bo amser yn caniatau wele atebiad i chwi ar unwaith. Can diolch am eich lith ddiddorawl, ac wrth gwrs am y prês. Mae'n dda gennyf iod y 'Ser' yn eich boddio. Yr wyf wedi gwerthu y nifer ddaeth i'm rhan i ers talm. Am y byd