Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/80

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cerddorol, ychydig iawn o'i helynt sydd yn fy ngwybodaeth i; allan o wlad mam a thad,' lle 'gwena pob gwyneb '—rhyw si yn awr ac yn y man o'i hanes hi yw yr oll o'm bendith, boed gerddorol neu arall; ac am Loegr, ychydig iawn o hi honi a'i gweithrediadau sydd yn gydnaws a theimladau Cymro.

Ynghylch cyfansoddi: nid wyf wedi bod yn hollol segur—mae rhywfath o rywbeth yn y wê fynychaf. Dwy Anthem, dwy Ganig, Madrigal Seisnig, Rhangan, gydag ambell i Dôn neu Alaw, yw yr oll wyf wedi ysgrifennu yn ddiweddar, 'rwy'n meddwl. Rhaid i chwithau, o ddifrif, gyfaill, ymysgwyd! Onid ydych yn meddwl yn fynych gyda' Mayfly' Dr. Callcott,—

"Then, insect, spread thy shining wing,
Hum on thy busy lay,
For man like thee has but his spring,
Like thine it fades away!"?

*****

Unwaith y clywais oddiwrth Blaenanerch er pan ddychwelais. Nid wyf wedi clywed oddiwrth Alaw Ddu yn ddiweddar iawn chwaith yr oedd ef a minnau wedi addaw cwrdd a Phencerdd America ym Merthyr drannoeth y Nadolig, ond methodd Alaw a dyfod mewn pryd o Abertawe lle yr oedd yn beirniadu. Cyfarfyddais ym Merthyr a Dewi Alaw am y tro cyntaf: Taffy right wreiddiol yw o—mwy felly, tybiaf, na'i ganig newydd 'Clywch yr Eos bach.' Yno, hefyd, y cyfarfyddais am y tro cyntaf a Frost y Telynor, un o'r bechgyn anwylaf