Dyma i chwi lith, machgen i! Gwell i chwi adgyfnerthu eich hun a thraflwnc o Home Brew'd cyn dechreu.
Gair cyn bod yn hir iawn, a'ch meddwl ar bopeth.
Byth yr eiddoch, D.E.E.
Er eu gwahanu gan dir a môr, ac er gwahaniaethu ohonynt ar lawer o bethau, parhaodd y bechgyn hyn—a "bechgyn" oeddynt fyth i'w gilydd yn un ac ynghlwm yn yr hen gymdeithas hyd y diwedd. Dengys llythyr John Thomas a ddifynnwyd fod yr hen amser yn para'n ei ffresni yn y dwfn, ac nad oedd ond eisieu llawysgrif ei gyfaill i'w godi fel swyn i wyneb y presennol llwyd. Yn yr un dôn of anwyldeb y sieryd Emlyn am ei "hen ffrynd John," pan gyferfydd ag ef yn 1901.
Nid oes eisieu ychwanegu mai pleser digymysg oedd treulio orig yn ei gyfeillach hyfryd ef unwaith eto—cyn i'r cnoc bach ar y drws' glywodd Ceiriog yn ei freuddwyd anghofadwy, gael ei daro."
A phan ddaeth y "cnoc bach ar y drws " i nol y cyntaf o'r cwmni, sef Gwilym Gwent, fel hyn y cyfeiria at yr amgylchiad:—
"Er fod Cymru wedi colli ymron yr oll o'r gwyr cerddorol fu yn ei gwasanaethu cystal yn ystod yr ymddeffroad a gymerodd le yn ein plith yn hanner gyntaf y ganrif, eto y mae y cerddorion blaenllaw a'u dilynasant—plant y dadeni eisteddfodol trwyadl—wedi cael eu harbed i raddau hynod ymron hyd yn awr; ond bellach, y mae y cylch a fu yn ddifwlch cyhyd wedi ei dorri, un ddolen o'r gadwyn wedi ei cholli, un gadair ar Aelwyd y Gân yn wag, a ninnau'n gorfod ysgrifennu y geiriau anodd a chwithig y diweddar Gwilym Gwent uwch-