Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/83

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ben ein hen gyfaill mynwesol, didwyll, ac awengar o Fynwy."

Teimla'n sicr fod yr hen gyfeillgarwch wedi bod yn drech na threigliad amser a helyntion cystadleuol:

"Bu i ni gyfarfodydd lawer ar feysydd cystadleuaeth am flynyddau, ac yn y blynyddau diweddaf fel beirniad a chystadleuydd; a pha un bynnag ai i Fynwy ai yma yr äe y gwobrwyon, neu pa un ai dyfarnu y wobr iddo ef neu arall a wnaem, gwyddem fod yr hen deimladau yn para yr un mor gynnes fyth."

Yna myn roddi'r lle blaenaf i'w hen gyfaill yn nhiriogaeth y Ganig:

"O ran poblogrwydd a thoreithder, dyma yn ddiameu y cerddor goreu a welodd Cymru hyd yn hyn. Gwir ei fod yn ailadrodd ei hun yn fynych; gwir hefyd ei fod yn fynych yn afler a gwallus; ond er hyn oll y mae wedi ysgrifennu llawer iawn o ddarnau sydd ymhlith y goreuon a feddwn. . . Y Ganig a'r Rhangan yw ei fannau cryfaf o lawer; y mae ei awen yn rhy ysgafn i'r Anthem, ac y mae heb erioed feistroli rheolau yr Ehedgan, etc.; ond ym maes y Ganig nid oes neb a'i trecha."

Bydd yn dda gan y darllenydd gael y llythyr a ganlyn o eiddo Gwilym sydd yn dangos yr un peth—ei ffyddlondeb i'r "hen foys"—heblaw bod yn nodweddiadol iawn ohono: nid yw'r flwyddyn i lawr—manylu dibwys yw hynny i Gerddor!

Plymouth, Pa,
America,
June 7fed.

Fy Anwyl Anwyl Gyfaill Emlyn,

Daeth dy lythyr caredig i law yn ddiogel, a da iawn oedd gennym ei gael, a chael cymaint o hanes yr hen wlad. Yr oeddet yn dweyd y gwir. Ië,