Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/84

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rascaliwns yw hanner y Boys sydd yn codi yn awr. Mae llawer ohonynt wedi dyfod yma a'u Do, Rey, Mi, Sol, Fa, wrth gwrs, ond ychydig allant wneud wedi'r cyfan. Da iawn oedd gennyf glywed fod yr hen foys yn gysurus, felly yr wyf fy hun.

Gyda hwn yr wyf yn anfon tri Darn Dirwestol, meddyliaf eu bod yn dda er yn rhwydd. (Gwnant) Marches ar yr heol ydynt. Byddai yn well i chwi eu cyhoeddi yn llyfryn bychan. Cant werthiant da gan y Riband Glas Boys. Os gwel Mr. Jones eu bod yn werth 30/—da iawn. Teimlwn yn ddiolchgar am iddo anfon y Pres erbyn y 1af o September, gan yr wyf yn myned i New York, y pryd hwnnw er fy iechyd, ac i gael clywed cerddoriaeth dda. Ni fydd gennyf ddim yn Dinbych: testynau gwael. Derbyniais dy Tylwyth Teg—diolch. Mi gefais y Times.

Ydyw Young Musicians yn yr hen nodiant, wys? Nis gallaf ddodi fy llaw ar y Quartett ar hyn o bryd, danfonaf ef eto.

Mawr ganmolir dy lythyr yma, pan ddaeth i mi, gan y Callcott Society, a dywedant ei fod yn wir bob gair.—O, mae twll tragwyddol yn llogell D——; felly, yn wir. Clywais fod O—— wedi myned i yfed yn ddrwg, gobeithiaf nad ydyw. Boneddwr yw O——.

Terfynaf gan fod y Mail ar fyned; danfon lythyr eto yn fuan,

Yr eiddot hyd dranc,

Gwilym Gwent, Box 248.

Derbyniais Trio y Lark. Mae R. T. Williams yma ac yn cofio atat, cei Lythyr oddiwrtho yr wythnos nesaf.