ag Eisteddfod Aberteifi yn 1868, gorfu iddo ef dderbyn baton o law ei gyfaill Tommy Morgan, i arwain y corau a ganai yn y cyngerdd.
Yn ffodus ynglŷn â'i ddyfodiad i'r Drenewydd a'i gysylltiad a'r Côr Undebol yno, y mae gennym gofnod—ion llawnach, diolch i gof cyfeillion a charedigion cerdd perthynol i'r lle. Yr wyf yn ddyledus i Mr. Jones, Van, am yr hanes a ganlyn, a bydd yn dda gan y darllenydd ei gael ar gyfrif y goleuni a deifl ar gymeriad Emlyn fel dyn yn gystal â cherddor:—
"Pan sefydiodd Mr. Emlyn Evans yn y Drenewydd, ymaelododd ar unwaith yn y Capel Cymraeg, capel bychan yr ochr arall i'r bont—capel bychan a ddiystyrrid gan bawb ond Cymry twym-galon. Yr oedd eglwys fawr Saesneg gan yr Annibynwyr ynghanol y dref, ond yn yr eglwys fechan y tu allan i'r dref y dewisodd ef wneud ei gartref. Bron yn gyfamserol a'i ddyfodiad ef i'r dref, cychwynnwyd symudiad pwysig i godi côr undebol o'r dref a'r wlad oddiamgylch, gyda'r bwriad o berfformio rhai o Oratorios y prif Feistri.
"Yr oedd Mr. Hugh Davies (brawd Tafolog) yn gerddor gwych, ac yn un o bwyllgor y symudiad newydd. Wedi dewis y pwyllgor a'r swyddogion oll, y mater mawr oedd pwy i'w ddewis yn Arweinydd. Fel un a wyddai yn dda am alluoedd disglaer Mr. Emlyn Evans, ac am y safle uchel oedd eisoes wedi gyrraedd, teimlodd Hugh Davies ei fod yn ddyledswydd arno wneud yn hysbys iddynt, fod yna wr ieuanc galluog iawn wedi newydd ddod i'r dref, a'i fod yn sicr yn ei feddwl ei hun y byddai yn gaffaeliad mawr mewn ystyr gerddorol, a'i fod yn ei gynnyg i fod yn Arweinydd. Parodd ei