eiriau syndod i'r holl bwyllgor, ac yr oedd mwy nag un yn gofyn: Pwy yw o'? Pwy yw o?' 'David Emlyn Evans,' meddai yntau. Ond nid oedd neb yn ei adnabod. Druan o y Drenewydd, y mae hi y tu allan i Gymru mewn mwy nag un ystyr. 'I b'le mae'Y Cerddor mawr yma yn mynd ar y Sul? meddai un ohonynt. 'I'r capel bach atom ni.' 'Wel, wel, dyna setlo'r mater! pwy gerddor mawr ai i'r Capel bach yr ochr draw i'r bont? Na, wnawn ni ddim mentro arweinyddiaeth y cor undebol i ddwylo dyn ieuanc na wyr neb ddim am dano ond Mr. Hugh Davies.' Ac yn eu golwg hwy yr oedd Mr. Davies fel un yn cellwair; a derbyniodd y gwr llednais hwnnw gryn dipyn o wawd y noson honno, am ei fod erioed wedi rhyfygu gwneud y fath gynygiad, ac yntau yn gwybod fod o leiaf bedwar (os nad chwech) o rai tra chymwys at y gwaith. Enwyd rhyw nifer fel rhai cymwys, ond ar Mr. Pearson y syrthiodd y coelbren. Ysgol—feistr oedd ef, a cherddor go lew ymhlith y rhai cyffredin. Ac am wn i nad oedd y dewisiad yn gorwedd yn bur esmwyth.
"Ni soniodd Mr. Davies ddim am helynt dewisiad yr Arweinydd wrth Emlyn; rhoddodd wybod iddo am ffurfiad y cor mawr, ac fod y practice cyntaf i fod fel a'r fel. Very good, meddai Emlyn, mae'n dda gen i glywed; idea gampus ydyw. Mi fydd yn bleser gen i ddod yn aelod o'r cor.'
"Daeth y noson gyntaf, a chafwyd cryn hwyl ar y canu. Yr oedd gan lawer ryw dipyn o grap ar y corws cyntaf. Ond hyd yn oed yn hwnnw, yr oedd ambell i gwymp yn cymryd lle, a'r gwr ieuanc dieithr yn y Tenor, wedi cael ambell i gyfle i helpu yma a thraw.